Hanes Hebron a Nebo
1803-1903
Eglwys yng Nghyfundeb Annibynnol Sir Benfro, yn cynnwys hanes Hebron or dechreuad am y cyfnod o gant o flynyddoedd;
ac o Nebo oi dechreuad hyd yn bresennol.
GAN Y PARCH
J. Lloyd James (Clwydwenfro)
March, Swydd Caergrawnt
Pris, 1s mewn Clawr Papyr; ac 1s 6c. mewn Llian
MERTHYR TYDFIL
JOSEPH WILLIAMS, ARGRAFFYDD, SWYDDFAR TYST
1903
Ymgymerodd y Parch J Lloyd James ar ysgrifennu Hanes Hebron ar gais yr Eglwys yn nglŷn â dathliad y Cyfarfodydd Canmlwyddol. Roedd ganddo wybodaeth lled helaeth oi hanes a llawer o ddefnyddiau at y gwaith. Teimlodd y cais yn anrhydedd oddi wrth yr Eglwys y cychwynnodd ei yrfa grefyddol ac roedd ysgrifennu yr hanes yn gydnabyddiaeth or ddyled ir Eglwys.
Hanes Hebron a Nebo 1803-1903
Saif capel Annibynnol Hebron ym mhlwyf Llanglwydwen yn nherfyn gorllewinol Swydd Gaerfyrddin, ond gan mai yng Nghyfundeb Swydd Benfro y rhestrir ef, gelwir ef yn Hebron, Dyfed.
Y Parch William Evans
Mae hanes dechreuol yr achos yn gysylltiedig ag enw a hanes y Parch. William Evans neu William Evan fel y gelwid ef. Nid oes darlun ohono ar gael. Ganwyd ef yn Felin, Llanglwydwen, sef yn yr un plwyf ag y ganwyd y Parch John Griffiths, Glandwr a llawer gweinidog arall wedi hynny.
Doedd ei dad, James Evan, ddim yn aelod o eglwys, ond er yn ddigrefydd ei hun, yr oedd ganddo syniad or hyn oedd crefydd yn ofyn. Eglwyswraig oedd ei fam. Roeddynt yn byw yn agos i Eglwys y Plwyf. Roedd ganddo dair chwaer sef Elizabeth (Betti), Yetwen, Mary Glandwr-isaf ac Anne (Nani), Tyllosg. Symudodd y teulu i Drefedw ac oddi yno i Yetwen. Ganwyd yn y flwyddyn 1749. Cafodd rhywfaint o ysgol ddyddiol ac yna ei osod dan ofal Evan Sion, Llaindelyn, Llanfyrnach i ddysgu twcwria.
Yr oedd Evan Sion yn grach-feddyg clwyfau ac esgyrn, a dysgodd William Evans yr un arferion. Derbyniwyd ef yn aelod yng Nglandwr gan y Parch John Griffiths yn 1772.
Yr oedd y Parch J. Griffiths y pryd hwnnw yn byw yn Nantsaeson, ac yn cadw cyfarfodydd esbonio yn ei dŷ. Byddai cryn dipyn o ddadleu yn y cyfarfodydd yn aml. Yr oedd William Evan yn Uchel-Galfiniad, William Griffiths mab y gweinidog yn Galfiniad Cymedrol, a David Phillip, Pantymaen, yn gogwyddo at Arminiaeth. Aeth David Phillip yn Arminiad hollol, ac efe a ddechreuodd yr achos Sosinaidd yn Rhydyparc.
Gwnaed William Evan yn henuriaid athrawiaethol yng Nglandwr, i gynorthwyo y Parch J Griffiths, a phregethai yno ac yn Rhydyceisiaid a Phenygroes. Priododd ag Elizabeth, merch David Zacharias, Pantygelli, plwyf Eglwysfair-a-Churig. Preswyliasant yn Llaindelyn.
Gan fod J. Griffiths yn llesgau, neilltuwyd William Evan yn gydweinidog ag ef, iw gynorthwyo ym 1798.
Dilynodd ei grefft ar ôl ei urddo am beth amser, a dywedai ei fod yn foddlon myned i Rydyceisiaid, tua saith milltir, os cadwent o mewn esgidiau. Bu lafurus, ond cynnil a diwyd (Simon Evans)
Arddangosir William Evan yn y Geiriadur Bywgraffyddol fel dyn anwybodus a diddysg. Gwir na fu mewn athrofa, ond cawsai addysg foreol ddigonol i feistroli llyfrau Cymraeg a Saesneg; darllenai awduron diwinyddol Saesneg gorau yr oes honno, a deallai hwynt, ac eisteddodd am flynyddoedd wrth draed y doethwr Barch John Griffiths. Mae yn amlwg ei fod yn r o alluoedd meddyliol uwch nar cyffredin, fel y dengys ei gyffes ffydd alluog, a rhai pregethau sydd yn ei ysgrif-lyfrau, ar ffaith iddo barhau yn boblogaidd, ai weinidogaeth yn llwyddiannus trwy ei oes.
Yn ei henaint, aeth y Parch John Griffiths, wedi oes o lafur caled, yn fethedig ac analluog i bregethu a bugeilio. Disgynnodd baich y dyletswyddau y tair eglwys yn bennaf ar William Evan. Yr oedd William Griffiths, mab yr hen weinidog, yn yr Athrofa yng Ngwrecsam, a phan ddychwelodd ym 1799, yr oedd rhai am ei urddo yntau gyda William Evan, yn gynorthwyol iw dad. Calfiniad cymedrol oedd W Griffiths, yr hyn oedd newydd beth yn yr oes honno, ac ystyriwyd ef gan rai yn gyfeiliornus yn ei farn ac yn afiach yn y ffydd, ac felly roeddynt yn erbyn iddo gael ei urddo. Aeth yr eglwys yn ddwy blaid. Cadwai y ddwy blaid eu hoedfaon ar wahanol amserau, ond aeth plaid William Evan i aflonyddu ar gyfarfod plaid William Griffiths. Ymofynnwyd barn bargyfreithiwr ar y pwnc ac yn ôl y dyfarniad hwnnw, clowyd allan William Evan ai blaid ar ddiwedd mis Gorffennaf 1803.
Cynhaliwyd cyfarfodydd gan William Evan ai blaid o Glandwr, yn ffermdy Drefach, plwyf Eglwys Fair-a-Churig, preswylfa Benjamin ac Ann Evans. Pan oedd yr hin yn ffafriol, cedwid yr oedfaon yn y cwrt o flaen y tŷ, ac wrth dair wal y cwrt, ir bobl i eistedd. Ni symudwyd y meinciau hyn ou lle hyd nes wedi symudiad William, mab Benjamin Evans ai deulu or lle. Pan na chaniatâi yr hin, cafwyd y gwasanaeth tu fewn y tŷ. Roedd tua 105 o aelodau.
Pleidwyr William Evan yng Nglandwr, 1803 oedd:
1. Mark Evan |
2. Thomas Evan |
3. Joshua Evan |
4. Thomas Evan |
5. Amazia Owen |
6. Benjamin Evan |
7. David Thomas |
8. John David |
9. John Evan |
10. John Phillip |
11. John David |
12. William Phillip |
13. William Lewis |
14. David Evan |
15. John Griffith |
16. Thomas John |
17. Owen John |
18. Moris Phillip |
19. William John |
20. Joshia Hugh |
21. David Owen |
22. James John |
23. Joseph William |
24. Moris Richard |
25. William Phillip |
26. William Moris |
27. Walter Hughes |
28. Thomas Lewis |
29. John James |
30. John David |
31. Samuel Morgan |
32. David Rees |
33. Thomas Stephen |
34. Hendry Davies |
35. Benjamin Evan |
36. Evan Owen |
37. Phillip Gibbon |
38. Joseph David |
39. Sara Evan |
40. Nanci Evan |
41. Mary David |
42. Mary Lewis |
43. Catherine Fransis |
44. Olif David |
45. Martha Moris |
46. Betty Moris |
47. Anne Evan |
48. Sara Evan |
49. Mary Owen |
50. Rachel Evan |
51. Mary Howell |
52. Mary John |
53. Martha Phillip |
54. Sara Phillip |
55. Ester Phillip |
56. Margret Evan |
57. Dina Evan |
58. Martha Evan |
59. Ester Lewis |
60. Mary James |
61. Betty Evan |
62. Hanah Rees |
63. Anne Moris |
64. Mary John |
65. Mary David |
66. Catherine Thomas |
67. Mary Thomas |
68. Mary Phillip |
69. Ester John |
70. Betty Evan |
71. Anne Griffith |
72. Margaret John |
73. Phebe Moris |
74. Nanci Hughes |
75. Sally Rees |
76. Mary David |
77. Mary Griffith |
78. Elizabeth David |
79. Hanah David |
80. Betty Hugh |
81. Rachel Mathias |
82. Mary Rees |
83. Martha James |
84. Sara, Kistellan |
85. Mary James |
86. Sara Lewis |
87. Martha Owen |
88. Sara Lewis |
89. Hana David |
90. Elenor Morgan |
91. Martha Phillip |
92. Nani Evan |
93. Nanci Hicks |
94. Nani Yonge |
95. Martha Yonge |
96. Mary David |
97. Margaret, Penllywhilor |
98. Nani David |
99. Elizabeth Morris |
100.Elizabeth Rhyddarch |
101.Hannah Evan |
102. Mary,(Widow) Elenor |
Ymwahanu oedd orau dan yr amgylchiadau. Maen amlwg ir blaid aeth allan ddechrau adeiladu mor fuan ag oedd bosib. Amseriad y brydles yw G yl Mihangel, 1803. Mae yn dra thebygol iddynt ddechrau cynal oedfaon yn Hebron cyn diwedd 1803. Prydles o 99 o flynyddoedd oedd i Hebron ar y cyntaf.
Adeiladwyd tŷ yn y flwyddyn 1806 ar gongl y fynwent Y Cornel gan un Thomas John, ar ei draul ei hun; a sicrhawyd tŷ iddo ef a Mary ei wraig, am ardreth o chwecheiniog y flwyddyn, tra byddent fyw, yna ei fod yn eiddo yr eglwys. Adeiladwyd tŷ ar ran or fynwent ar yr un amod gan David Evan, crydd, yn y flwyddyn 1814. Bu ei fab, William Evan, y crydd, fyw yno ar ei ôl.
Pum swllt oedd yr ardreth flynyddol am dir y tŷ-cwrdd ar fynwent, a thelid y swm i David Thomas, Llwynymynydd, ac i Catherine, ei weddw, ar ei ôl. Yr oedd £10 o arian wedi eu rhoddi, eu casglu neu eu gadael at gynal y weinidogaeth yn Hebron.
Cofnodir fod i Evan Jones Ysw. ganiatáu ffordd geffyl o Bont Llanglydwen, trwy gae Moris Phillip, deiliad Mrs Protheroe, fel ffordd gyfleus i dŷ-cwrdd Hebron, am chwe ceiniog y flwyddyn iw dalu yn flynyddol i Moris Phillip. Talwyd y swm o chwech cheiniog i Moris Phillip am y flwyddyn gyntaf yn 1806. Y taliad olaf gofnodir gan William Evans yw Mihangel, 1813.
Y cyntaf gladdwyd yn Hebron oedd Hannah, gwraig John Jenkin, Parcgwyn, a fu farw Rhagfyr, 1805 yn 61 mlwydd oed. Ar ei beddfaen mae:
Dymar fan maer cynta o ddynion
A gadd ei hebrwng lawr i Hebron
I orwedd hyd nes delor alw
Ir ddar ar môr roi fyny eu meirw.(ayyb)
Yr oedd Thomas Lewis, Lan, tad Lewis a David Lewis, yn henuriad yn Hebron yn amser William Evan. Yr oedd John David, Bwlchsais, yn henuriad yng Nglandwr, ac wedi hynny yn Hebron.
Bedyddiwyd 558 gan William Evan yng Nglandwr, Rhydyceisiaid, Penygroes, a Hebron o Ragfyr 1798 tan Fedi, 1818. Derbyniodd 104 yn Hebron i ychwanegu at y 105 a ddaeth o Glandwr. Bu farw 50 o aelodau Hebron yn yr un cyfnod syn gadael 159. Mae y cofnodion or bedyddiadau, derbyniadau, ar marwolaethau yn gyflawn.
Uchel-Galfiniaid oedd aelodau Hebron yn amser William Evan. Dywedir am John David (Sion, Bwlchsais) yr arferai ddweud fod yr etholedigion dan y cyfamod gras, ar anetholedigion dan y cyfamod gweithredoedd. Dywedir fod y Parch William Evan wedi dweud ar bregeth yn Rhydyceisiaid: Bobl! Pe gweddïech nes bod eich tafodau yn bres, ach penliniau yn haearn, os heb eich ethol, ni chedwir chwi.
Beth allasai William Evan gael o gyflog yn y tair eglwys, neu yn un ohonynt, at ei gynhaliaeth? Nid oes gofnodiad o gwbl. Ond celai 10s o lôg ar y £10 yn Trefach, 1s ardrethi dau anedd-dŷ yn Hebron; 10s ardreth flynyddol tŷ annedd Rhydyceisiaid, oddi wrth Jane John; a 10s o lôg £10 oddi wrth Frances Thomas. Yr oedd digon o gyfoeth gan William Evan, fel nad oedd eisiau arno. Clwydwenfro.
Yr oedd henaduriaid llywodraethol ac athrawiaethol yn ogystal â diaconiaid yn Hebron, yr un peth ag yng Nglandwr ar hen eglwysi eraill, yn ôl y drefn Bresbyteraidd.
Bu y Parch William Evans farw ym 1818 yn 69 mlwydd oed. Claddwyd ef yn Hebron. Ar ei gof-faen mae y pennill:
Rwyf fi, ch hen fugail, wedich gadael,
A mynd och blaen ir gorlan dawel;
Cyfansoddwyd Marwnad ar ei ôl gan Thomas Davies, Llwynmynydd, wedi hynny Plas, Llanglydwen, amaethwr cyfrifol, gwr bywiog ei awen, a thad y bardd John Davies (Ioan Glantaf), or un lle.
Bu William Evans, Hebron, yn ffyddlon yn ei ddydd,
Dangosodd ymdrech rhyfedd o hyd o blaid y ffydd;
Ni chlywir mwy mohonon cyhoeddi Efengyl Crist,-
Wrth feddwl am fath golled, mae wyneb rhai yn drist.
Hebron a Rhydyceisiaid gadd golled mawr heb lai,
A Phenygroes, heb amheu, mewn hiraeth trwm y mae,
Ar ôl ei hoff weinidog syn ddistaw yn y pridd-
Hwy gânt ei weled eto pan ddelor olaf ddydd.
Nid oedd i William blentyn. Bu ei weddw fyw ar ei ôl yn Llaindelyn tan 1828.
Y Parch John Evans
1818-1849
Ganwyd John Evans, Ebrill 14eg, 1788, yn agos i fferm or enw Nantygeifr, plwyf Llanfyrnach, Sir Benfro. Ei rieni oedd Thomas a Margaret Evans. Bu ei fam farw pan nad oedd ond saith mlwydd oed, a chladdwyd hi ym mynwent Blaenffos. Yr oedd yn wraig rinweddol a hawddgar. Priododd ei dad drachefn, a thrwy anrhefn a chaledi yr amseroedd, aeth y teulu i amgylchiadau tymhorol isel. Gorfu i John, ai frawd Thomas fynd i wasanaethu. Dioddefodd y ddau dlodi ac angen mawr, a buont yn grwydriaid digartref heb dŷ i aros ynddo. Nid anghofiodd John Evans byth yr amgylchiadau cyfyng y bu ynddynt.
Dywedir ei fod yn teithio gyda ffermwr cyfrifol yn Llanfyrnach, ac wrth fynd heibio i gwter fawr, dywedodd;
Yn y gwter yna y cysgais i noswaith, pan wrthodwyd i mi le i orphwys yn eich ffermdy chwi.
Wedi aelodi, aeth i wasanaeth Simon Evans, Dyffrynmawr, henuriaid athrawiaethol ym Mhenygroes, gwr mawr ei ddylanwad ac y bu yn noddwr caredig, a ffurfiwyd rhyngddynt gyfeillgarwch pur a pharhaus.
Anogwyd John Evans i ddechrau pregethu. Yn 1813, ar draul Simon Evans a chyfeillion eraill, dechreuodd ei addysg yn yr Ysgol Ramadeg yng Nghaerfyrddin, ac yn 1814, derbyniwyd ef ir Athrofa yno.
Treuliodd bedair blynedd yn yr Athrofa, a gwnaeth iawn ddefnydd oi gyfleusterau ai fanteision. Yr oedd yn ysgolhaig gwych, diwinydd galluog, a phregethwr dylanwadol. Cafodd alwadau o Bencader, Arberth a Phenygroes. Derbyniodd yr alwad oi fam-eglwys ac urddwyd ef yn 1818, yn gynorthwywr iw weinidog, y Parch William Evans.
Ar farwolaeth William Evans yn 1818, ddisgynnodd gofal Hebron arno, gyda Phenygroes. Priododd â Miss Martha Morgan, Cilgynydd, a bu iddynt chwech o blant.
Yn y flwyddyn 1830, symudodd y Parch John Evans i Gaeraeron, lle y trigodd weddill ei oes. Elai i Benygroes yn rheolaidd hyd ddiwedd y flwyddyn 1843, pryd y rhoddodd i fyny ei ofal ohoni, gan fod Nebo yn gofyn ei ofal hefyd, gyda Hebron. Helaethwyd Capel Hebron yn 1824. Adeiladwyd Nebo, a chorfforwyd eglwys yno. Gweithiai yn ffyddlon, ac yr oedd ei holl galon yn y gwaith. Ymwelai âr teuluoedd ac âr cleifion, a gadawai argraff ar ei ôl ym mhob man ac ar bawb, mai dyn Duw oedd. Pregethau yn felys, rhwydd, dawnus, eglur, ac adeiladol. Yr oedd yn ei fan gorau gartref gydai bobl ei hun, ac mewn tai annedd. Cefnogai bobl ieuainc, ac yn neilltuol rhai llafurus am wybodaeth. Yr oedd yn fawr ei barch gan bob dosbarth a pherchid ef fel angel Dduw. Yn ystod ei weinidogaeth, yn ei eglwysi, bedyddiodd 1,166. Yn Hebron yn 1818 roedd 148, a derbyniodd 440.
Cynhelid cyfarfodydd esbonio, a elwid Cwrddai Bach ar nos Sul yn y gaeaf mewn gwahanol gartrefu gan ei bod ymhell, tywyll ac anodd dyfod ir capel. Cynhelid hwy yn Pengawsey neur Plas, Llwynbanal neu Llwynmynydd, Cilhernin, Tycoed neu Waungron, a Threfach (Eglwysfair).
Ar nos Suliau haf, byddai naill ar Ysgol Gatecism neu Gwrdd Bach esbonio yn y capel. Yr oedd y Parch John Evans yn gateceisiwr mawr, a chyhoeddodd Gatecism ar y Sabath oi waith ei hun, a fu yn boblogaidd yn ei ddydd. Ysgrifennodd hefyd Lythyr Cymanfa Penygroes ar Odineb (1842); hefyd Catecism ar Weddi ac ar Berson a Gwaith yr Ysbryd Glân.
Ergyd drom iddo ar teulu oedd marwolaeth ei wraig ddoeth a rhinweddol ym 1847.Cychwynasai hi gwrdd gweddi benywod yn Hebron.
Pregethodd y Sabbath olaf oi oes yn 1849 yn Hebron a Nebo. Cafodd beth afiechyd ychydig cyn hyn, ond daethai yn lled dda. Ar ddydd Mercher, Hydref y trydydd, aeth ar ei ferlen i Arberth i bregethu yn y Tabernacl ar urddiad Mr Joseph Morris yn weinidog. Yr oedd yn fore glawog, ac yr oedd tua deuddeg milltir o ffordd. Teimlodd gryn boen ar y ffordd. Disgynnodd yn y Kings Arms. Aeth y boen yn waeth, ac anfonwyd am Mr Thomas, y meddyg. Tra oedd ei fab, Simon Evans yn pregethu ar Natur Eglwys, yr oedd ei dad yng ngafaelion angau a bu farw yn yr amser hwnnw yn y Kings Arms.
Aeth y newydd syn fel taranfollt trwy dref a gwlad. Dygwyd ei gorff i Gaeraeron a chladdwyd ef yn Hebron.
Tynnwyd llun olew or Parch John Evans yn Arberth yn 1846 gan y lluniedydd Pyne
Y Parch Simon Evans
1850-1885
Mab John Evans oedd Simon Evans a ganwyd ef yn Penlan, Eglwyswen, Sir Benfro yn 1824. Ei fam oedd Martha, merch John Morgan, Cilgynydd, gynt or Forge, ac yn un o golofnau yr achos yn Henllan. Symudodd y Parch John Evans ar teulu o Penlan i fferm Caeraeron pan oedd Simon yn blentyn. Derbyniwyd y plant yn aelodau yn Hebron; David Evans, 1832; Simon Evans, 1834; a John Morgan Evans a Catherine Evans yn 1839.
Dechreuodd Simon Evans bregethu pan oedd yn bymtheng mlwydd oed. Yr oedd oi febyd yn wahanol i blant cyffredin ac yn ddiarhebol am ei gywirdeb ai unplygrwydd. Nis gallasid ei brynu nai ddychrynu, ac yr oedd yn nodedig o gydwybodol ym mhob peth.
Derbyniodd ei addysg yn Athrofa Caerfyrddin. Cafodd alwad o Benygroes ac urddwyd ef yno yn 1844 pan oedd yn ugain mlwydd oed. Bu hefyd yn cadw ysgol ddyddiol yno am beth amser.
Siaradai yn gyflym iawn wrth bregethu, gan daflu allan ei eiriau ai ymadroddion, heb fawr o godiad na gostyngiad llais a heb orffwysiad rhwng y brawddegau. Parabliad cyflym oedd iddo hyd y diwedd. Nid oedd fwlch na man gwan yn ei weinidogaeth. Yr oedd yn ddisgyblwr llym ac yn geryddwr heb ei fath ond cerid ef yn annwyl gan bobl ei ofal.
Anaml y byddai yn absennol o un math o Gyfarfodydd Chwarterol, agoriad capel, urddiad, Cymanfa y Cylch, ac undeb yr Annibynwyr Cymreig. Bu yn gadeirydd yr Undeb, a thraddododd anerchiad rhagorol or gadair yn Ninbych yn 1881, ar Ddiwinyddiaeth Geiriau Crist. Ysgrifennodd lawer ir cylchgronau Cymreig, a phregethai yn fynych mewn eglwysi Saesneg. Yr oedd yn ddyn talentog, gwybodus, cyflawn, a phob amser yn barod.
Catecism Griffiths, Llanharan arferid yn amser John Evans ond yn amser Simon Evans Y Catecism Byrraf arferid. Cyhoeddodd Simon Evans holwyddoreg fychan oi eiddo sef Drws y Tŷ fel llawlyfr aelodaeth ir ifanc. Arferid ef yn y Cwrdd Plant. Creodd y cwrdd hwn gyfnod newydd yn hanes ei eglwysi. Credai ef mewn egwyddori a chododd do o bobl ieuainc ddeallus a chrefyddol.
Yn 1851, priododd â Miss Martha Griffiths, merch y Parch James Griffiths, Tyddewi. Buont fyw yn y Tyddyn, ger Penygroes, lle bu ei frawd, J M Evans, a David Thomas (Llangynidr wedi hynny) yn cael gwersi ganddo iw paratoi. Symudodd or Tyddyn ir Groeslon, tŷ godwyd gan yr eglwys yn 1854.
Yn 1850 derbyniodd alwad o Hebron a Nebo a bu cyfarfod ei sefydlu. Gweinidogaethai yn awr yn y tair eglwys, fel y gwnâi ei dad am dymor. Penderfynodd wedi hynny i gyfyngu ei lafur i Hebron a Nebo a rhoddodd naw mis o rybudd i Benygroes. Derbyniodd ym Mhenygroes 94 o aelodau newydd a 182-trwy lythyrau. Rhoddodd lythyrau ymadawol i 262 tan 1856. Yr oedd yn groniclydd eglwysig heb ei fath.
Aeth ef ai briod i ffermdy Careaeron hen gartref cysegredig ei rieni ar lle y magwyd yntau. Cadwyd y fferm mewn llaw gan ei ewythr, Mr W Griffiths, Castellgarw. Ni wyddau Simon Evans ddim am ffermio ond roedd ganddo was deallus a gofalus ac yr oedd Mrs Evans yn gynefin a gwneud caws ac ymenyn. Nid oes un tŷ yng Nghymru a mwy o gysylltiad âr weinidogaeth efengylaidd, ac y bu cynifer o weinidogion a phregethwyr yn lletya ynddo, na Chareaeron.
Yn ystod ei weinidogaeth yn Hebron, derbyniodd 301 o aelodau newydd. Y rhai cyntaf a dderbyniodd o aelodau newydd oedd dwy chwaer Clwydwenfro sef Margaret a Elaenor James, Berllandawel, 1851. Yr olaf oedd Lettice Devonald, Llainganol, a Phoebe Pillips, Lan, Llanglydwen, 1885. Derbyniodd 401 trwy lythyrau. Cyfanswm y derbyniadau 702. Rhoddodd 586 o lythyrau ymadawol a gadawodd 13 heb lythyrau ac adferwyd 104.
Yn 1861, cynhaliwyd Cwrdd yr Hebroniaid cwrdd ir rhai a gafodd eu codi yn Hebron i fod yn bobl gyhoeddus ym mysg yr Annibynwyr.
Mr Jonah Evans, Coleg Caerfyrddin oedd fab i ferch John Lloyd, Berllandawel.
Parch A Jenkins, Cana, a fu yn cadw ysgol yn Hebron yn amser Simon Evans.
Parch J M Evans, Trefgarn Caerdydd wedi hynny
Parch J Lloyd James, Eglwysnewydd
D Thomas, Llangynidr
R Perkins, Maenclochog
Mr D Evans, Henllan
J Lewis, Henllan
Parch J Morris, Arberth
Parch J M Evans, Aberafon
Mr J Phillips, Aberafon
Dywedodd y Parch Simon Evans, Tystiai pawb na ddarfu i gyfarfod yn Hebron ers 25 mlynedd gyffroi cymaint ar deimladau y gwrandawyr ar eglwys.
Roedd y capel yn orlawn a chodwyd y ffenestri oedd yn rhannol or tu cefn ir pulpud ac fe bregethodd y Parch J Lloyd James or ffenestr yn sefyll ar astell heb ddim amddiffyniad oi flaen.
Cyfeiriodd y Parch J Lloyd James at y cymorth ar symbyliad a gawsai or ysgol nos a elwid Y Cwrdd Ceiniog. Ceiniog yr aelod oedd y tâl at dalu am ganhwyllau. Dysgwyd merched a bechgyn. Trowyd hi yn Gymdeithas Gyd-ddiwylliadol, a ffurfiwyd Llyfrgell i rai awyddus i ddiwyllio eu meddyliau. Cychwynnodd llawer eu gyrfa lenyddol a throdd tri neu bedwar yn bregethwyr ac aethant ir weinidogaeth.
Yn 1886, penderfynwyd cael capel newydd yn lle yr hen un oedd a darn croes yn ei gefn, fel oriel yn codi, a golwg gyntefig arno. Rhoddodd Syr Owen Scourfield ddarn helaeth at y fynwent ac adeiladwyd y capel ar safle newydd y lle, yn rhannol, y safai gynt hen dŷ elwid Cornel, am ei fod ar gornel y fynwent. Ni fu rhaid cyffwrdd ar feddau a chafwyd gwasanaethau yn yr Hen Gapel hyd nes bod y newydd yn barod. Safai yr hen gapel yn agos i ganol y fynwent, lle y claddwyd y Parch Simon Evans ac eraill. Mae Mrs Evans yn gywir lle yr arferai eistedd yn yr oedfaon.
Ar y Sabbath olaf, yn yr hen gapel, Awst 3ydd 1879, cadwyd Cyfarfodydd Ymadawol. Dechreuwyd y gwasanaeth am 9 y bore gan Mr John Davies, Nebo. Pregethodd Mr Thomas, Libanus a Mr Perkins, Maenclochog, ar y Cymundeb iw weini. Caed benthyg dau gwpan yn ychwanegegol o Glandwr. Bu dau o ddiaconiaid Nebo yn gweini gydar pedwar arferol o Hebron. Derbyniodd Simon Evans wyth o aelodau newydd ac adferwyd dau. Siaradodd J Lloyd James yn ystod y Cymundeb. Doedd dim ond un ar ôl o aelodau William Evans (y gweinidog cyntaf) sef Anne Evans, Ffynonceisiaid gynt. Roedd hi yno gydai merch, Anne Marsden, y Garn a gafodd ei derbyn gan John Evans. Roedd dwy ferch iddi hi yn cael eu derbyn, Rachel a Mary. Tair cenhedlaeth wedi ei derbyn gan y tri gweinidog cyntaf yn Hebron.
Am ddau or gloch Mr T Evans, Antioch ddechreuodd (gwreiddiol o Hebron) a phregethodd J Lloyd James, Moreton-in-Marsh (Clwydwenfro), swydd Gaerloyw, a J M Evans, Caerdydd. Am 6-or gloch, dechreuodd J Lloyd James a phregethodd D Thomas, Llangynidr ar gweinidog Simon Evans. Roedd y lle yn orlawn a bu rhaid torri rhai o gwareli y ffenestri or tu ôl ir pulpud yn y prynhawn i gael awyr. Ar ôl diwrnod trymedd cafwyd noswaith ryfeddaf o fellt a tharanau.
Awst 4ydd, cafwyd Cyfarfodydd Agoriadol y capel newydd. Am 7 y bore, bu cwrdd gweddi. Gweddïodd Thomas Evans, aelod o Ebenezer, Aberdar, mab David Evan gynt or Ffynnon, a dderbyniwyd yn Hebron, 1818 gan William Evans. Gweddïodd B John, gwehydd, H Davies, Postgwyn ac R Perkins, Siloh. Am 9:30 dechreuodd y Parch O R Owen, Glandwr, a phregethodd y Parch J R Thomas, Bethesda. Yna cyflwynwyd y tŷ trwy weddi gan yr Hybarch John Davies, Moriah (gynt o Glandwr) a phregethodd J M Evans, Caerdydd, a therfynodd Mr Davies, Tyrhos trwy weddi.
Am ddau or gloch dechreuodd Mr Williams, Henllan, a phregethodd D Thomas, Llangynidr a J Lloyd James yn Saesneg a hefyd E Lewis, Brynberian. Gweddïodd J Griffiths, St Florence. Am chwech or gloch dechreuodd D R Davies, Rhydyceisiaid a phregethodd Jones, Trewyddel, Morris, Trefdraeth a hefyd Bateman, Rhosycaerau.
Cost y capel oedd £1300 a gwnaeth eglwys a chynulleidfa Hebron dros £750. Caed £500 cyn y cyfarfodydd gan eraill a chasglwyd £100 yn ystod y cyfarfodydd.
Bu y Parch Simon Evans farw yng Nghaeraeron, 1885 yn 62 mlwydd oed a chladdwyd ef yn Hebron. Pregethodd y Parch Dr J Thomas, Lerpwl ar Parch Dr T Rees, Abertawe. Bu ei chwaer, Miss Margaret Evans yn ffyddlon weini arno yn ei gystudd olaf.
Bu Miss M Evans yn cadw tŷ ei brawd J M Evans yng Nghaerdydd ac wedi ei gladdedigaeth ef daeth nôl i Gaeraeron i gadw tŷ yw brawd arall, Simon Evans. Codwyd tŷ a elwid Aeron iddi ac yno y bu hyd ei marwolaeth yn 1898. Derbyniwyd hi yn aelod yn Hebron gan ei thad yn 1844, yn un o 13 yr un pryd. Hi oedd yr ieuengaf ohonynt. Cadwodd broffes ddifwlch, ymarweddiad diargyhoedd, a bywyd pur a defnyddiol hyd y diwedd.
Y Parch Tegryn Phillips
1885-1928
Aelod gwreiddiol o Lwynyrhwrdd, a threuliodd amser fel myfyriwr yn Athrofa Caerfyrddin. Mr Phillips oedd y cyntaf i gael ei urddo yn y cylch hwn ac roedd ugeiniau yn y ddwy eglwys heb fod mewn cyfarfod or fath erioed or blaen.
Letyai Mr Phillips yng Nghaeraeron, gyda Miss Evans, hyd nes iddi hi benderfynu rhoddi y fferm i fyny. Yna prynodd y lle ac yno y parhaodd i fyw gan ofalu am y fferm ar eglwys. Roedd yn fugail ffyddlon, yn bregethwr rhagorol ac yn weithgar gyda phob cymdeithas berthynol ir achos. Roedd hefyd yn llenor a bardd. Yr oedd y tri gweinidog oi flaen yn gyfansoddwyr penillion, ond roedd Tegryn Phillips yn bryddestwr ac englynwr.
Cyhoeddodd, gyda J Cradoc Owen, Bethesda, dri o gatecismau ar Foesoldeb Cristionolog.
Gweinidogion a gafodd eu codi yn Hebron
Rhys Perkins Ganwyd yn 1812 ym mhlwyf Ambleston a symudodd y teulu i Lwynhuw, Llanglydwen. Derbyniwyd yn Hebron gan John Evans yn 1827. Bu yn Ysgol y Parch W Davies, Rhydyceisiaid, gynhelid yn Llanboidy. Priododd â Miss Mary Phillips, Kilhernin, ac wedi bod yn cadw fferm Maenhir, derbyniodd alwad eglwys Pergamus (Maenclochog) a Siloh. Urddwyd yn 1852. Bu farw yn 1891 yn 79 mlwydd oed.
Calep Evans Ganwyd yn Llwynymynydd yn 1823 i John a Sara Evans. Bedyddiwyd ai dderbyn yn Hebron a gollyngwyd i Fethel, Llanddewi yn 1847 ac wedyn i Henllan lle dechreuodd bregethu. Aeth i Goleg Caerfyrddin yn 1857. Urddwyd yn y Foel, Sir Drefaldwyn. Bu farw yn 1891 yn 67 mlwydd oed.
James Morris Mab David Morris y gof, a dderbyniwyd yn Hebron gan John Evans yn 1839. Bu yng Ngholeg Aberhonddu ac urddwyd yn Ynysgau, Merthyr Tydfil. Trodd ir Eglwys Wladol a bu farw yn ficer y Cwm yng Ngogledd Cymru.
John Morgan Evans Ganwyd ym Mhenlan, Eglwyswen yn 1826. Derbyniwyd yn Hebron gan John Evans yn 1850. Bu yng Ngholeg Caerfyrddin ac urddwyd ef yn Nhrefgarn 1855. Yn 1866, derbyniodd alwad wrth Ebenezer, Caerdydd.
David Thomas oedd fab i Samuel a Martha Thomas, Trehiruchaf a bedyddiwyd gan John Evans, 1844. Aeth i Goleg Aberhonddu ac i yn weinidog Llangynidr ar Dyffryn. Ysgrifennodd gyfres alluog o erthyglau ir Diwygwyr ar hanes Athrawiaethu.
John Lloyd James (Clwydwenfro) Mab Edward ac Esther James, plwyf Llanddewi Felfre. Bu farw ei dad yn 1837, ai fam yn 1842. Magwyd ef ai ddwy chwaer gan eu taid, John Lloyd, Berllandawel, a chafodd ysgol ddyddiol dda hyd yn 14 mlwydd oed. Derbyniwyd ef yn Hebron gan John Evans yn 1848. Bu yn cael gwersi clasurol gan ei gyfaill, Geo P Davies, Plas (myfyriwr cystuddiedig), ac wedi hynny gan y Parch J Davies (Glandwr) yn Yetwen. Pregethodd gyntaf yn nh Thomas Morris y gof. Pregethodd gyntaf yn Hebron yn 1853 pryd y cydnabuwyd yn bregethwr rheolaidd gan yr eglwys. Aeth i ysgol y Parch W Davies, Rhydyceisiaid a lletyai yn Rhyd-Caerlleon. Aeth i Goleg Caerfyrddin ac urddwyd yn weinidog Eglwysnewydd a Llansantffraid-ar-Lai yn 1860. Symudodd i Ivor Chapel, Dowlais lle dechreuodd ei weinidogaeth yn Saesneg. Aeth oddi yno i Moreton-in-Marsh (Gloucestershire) yn 1875 ac wedyn i March (Cambridgeshire) yn 1879.
Jonathan Davies (Carnalaw) Mab Francis a Mary Davies, Trefedw, Llanglydwen. I Hebron y deuai y rhieni ar plant hyd nes ir teulu gael eu hysgar au gwasgar. Bu Jonathan Davies yn ysgolfeistr ym Mhencader a Glandwr. Aeth i Goleg Caerfyrddin yn 1855, ac urddwyd ym Methlehem ger Llandeilofawr. Ni bu ynon hir ac aeth i Lerpwl at ei frawd. Roedd yn fardd medrus a thlws, ac yn llenor gwych.
Thomas Thomas Mab Dan a Penelope Thomas, Bwlchsais. Bedyddiwyd gan Simon Evans. Aeth i ysgol D M Palmer, BA Abertiefi aeth i Aberhonddu yn 1874. Urddwyd yn weinidog yn Libanus a Chwmcamlais, Brycheiniog yn 1878. Symudodd i Providence (Llangadog) a Tabor (Llanwrda) yn 1881.
George Palmer Lewis Mab Thomas a Phebe Lewis, siop Hebron. Ei fam oedd ferch y Parch W Griffiths, Glandwr, yr emynydd enwog. Ganwyd yn 1866 a dechreuodd bregethu yn 1881. Aeth i ysgol Palmer, Abertiefi ac i St Clears (Parch J Evans BA) ac wedyn aeth i Goleg Caerfyrddin. Urddwyd yn Whittlesea, swydd Caergrawnt 1890. Symudodd i Wickham Market, swydd Suffolk. Rhoddodd y weinidogaeth drosodd yn 1893 ac aeth i New College, Llundain yn fyfyriwr diwinyddol. Ymsefydlodd yn weinidog or newydd yn Saltley Road, Birmingham.
Owen Lloyd Morris Mab William a Margaret Morris, Felin, Llanglydwen. Ei fam oedd ferch William ac Anne Hughes or Felin. Roedd William Hughes yn swyddog yn Hebron. Roedd William Morris yn fab i Thomas ac Anne Morris Trehowell ac Anne Morris, ei fam, yn ferch i Owen Lloyd, Cwmbarre, ger Hawen. Dechreuodd bregethu yn Ebenezer, Caerdydd yn 1887 dan weinidogaeth y Parch Alun Roberts BD. Derbyniwyd i Goleg Aberhonddu yn 1889 a dechreuodd ei weinidogaeth yn Ebenezer, West Bromwich 1894.
Thomas Tudor Mab Samuel a Martha Tudor, Yetybylchau. Urddwyd yn Saron, Penycae, Ebbw Vale yn 1894.
David Davies Mab Levi a Margaret Davies, Trawstre (fferm). Dechreuodd bregethu yn Hebron 1895. Bu yn paratoi yn ysgol Ganolraddol, Whitland ac aeth i Hen Goleg, Caerfyrddin. Urddwyd yn Felindre, Morganwg 1902.
David Tudor Brawd Thomas a John Tudor. Dechreuodd bregethu yn Hebron yn 1903. Aeth i Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin.
Eraill na fuont yn y weinidogaeth ond a fu yn pregethu:
Benjamin Thomas, Yetwen ond y Garn wedi hynny.
Ezer Davies, Penlanfach ac wedi hynny Glyntaf ydoedd fab Siams Davies, Pentregalar. Gŵr tanllyd iawn oedd ond doniol mewn gweddi.
John Phillips symudodd i Aberafon
Thomas Davies, Nant Mab John Davies, Bwlchsais. Saer coed oedd wrth ei alwedigaeth.
Thomas Evans mab William a Sophia Evans, Drefach. Symudodd i Bwllgrechydd a gollyngwyd i Benygroes, 1862.
George Davies mab Thomas a Rachel Davies, Plas, Llanglydwen. Bu farw yn unarhugain oed.
David Evans mab William Evans, Trefach.
Swyddogion Hebron:
David Morris, Gof, Bont. Cafodd ei dderbyn yn 1808
John Evans, Waungron. Derbyniwyd yn 1808
William Evans, Trefach, Eglwysfair-a-Churig. Derbyniwyd yn 1819.
John Phillips, Cilhernin ac wedi hynny, Glandwr-isaf. Derbyniwyd yn 1823.
William Hughes, Felin, Llanglydwen. Daeth i Hebron trwy lythir o Henllan.
Lewis Lewis, Llwynmynydd ac wedyn Sylfania. Derbyniwyd ym Mhenygroes yn 1824.
David Stephen, Brwynant (Saer) o Lwynyrhwrdd.
David Thomas, Glandwr-isaf oedd yn briod â Martha, merch John Phillips, Cilhernin.
John Davies, Plas, Llanglydwen.
Ben Phillips, Llwynllwyd, mab J Phillips, Cilhernin.
David Thomas, Tyllosg (joiner).
David Gibbon, Fforest
Levi Davies, Trawstre
Morris Phillip, Trehir-isaf
William Morris, Felin
John Williams, Glyntaf
Samuel Tudor, Yetybylchau
Dan Davies, Pentregalar
Stephen Davies, Waungron
John Williams, Cefn, Cilhernin.
David Davies, Lletty, Masnachwr
George Williams, Glyntaf
Jonathan Lewis, Tyisaf
James Thomas, Bwlchsais
Thomas Lewis, Sylfania, mab Lewis Lewis
David Lewis, Lan
Thomas Morris, gôf, Trehowell
Anne Morris arweinydd y benywaid yn yr ysgol gân ar oedfaon.
Rowland Howell, masnachwr
David Thomas, Cornel
Evan Phillip, Mab John Phillip
Dan Thomas, Glandwr-isaf
John Howell, Parcyllain
William Morris, Felin
David Lewis, mab Tyisaf
Thomas Davies (Clydwenfab)
William Davies, Trawstre
Thomas Phillips, Siop Hebron
Rees Phillip
William Hughes Morris, Felin
David Tudor Evans,
Catherine Morris gwraig y Parch J Morris
Llyfrgell ac Ysgol.
Agorwyd llyfrgell yn 1899 pan roddwyd 300 o gyfrolau. Erbyn 1903, roedd 466 o lyfrau. Rhoddwyd rhan helaeth or llyfrau gan Mr W Hughes Morris, Southport.
Bu ysgol ddyddiol yn Hebron yn yr hen amser. Cedwid ysgol un amser yn yr hen dŷ-cwrdd i ddysgu darllen Cymraeg yn bennaf gan yr hen Isaac o Gefnypant
Codwyd ysgoldy. Yma bu Abednego Jenkins, Daniel John (1843-44), William Evans (1845-6) ac wedyn Miss M Evans, Caeraeron.
Rhydd-feddiant (Freehold) ar droad y ganrif
Ffaith arall am Hebron yw fod yr eglwys wedi cytuno âr meistr tir, sef Scourfield Ysw, i brynu tir y capel ar fynwent yn rhydd-feddiant (freehold) bythol am £30. Mae hyn yn gyson â sefyllfa pethau ar y pryd ym mhlwyf Llanglydwen, gan fod pob amaethwr wedi prynu ei fferm ei hun, ar gynnig yr un bonheddwr.